Llofruddiaeth: Arestio tri dyn

heddlu Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu

Mae Heddlu'r De wedi arestio tri dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 43 oed yn ardal Port Talbot.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym Mhentyla, Baglan, am 8.06am ddydd Gwener, lle daethpwyd o hyd i gorff David John Eves o Sandfields.

Mae'r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae'r tri dyn sydd wedi cael eu harestio yn 24, 45 a 49 oed.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.