Cynghorydd yn 'darged i eithafwyr'

Councillor Mohammed Sarul Islam Image copyright BBC news grab
Image caption Dywedodd y Cynghorydd Mohammed Sarul Islam y bydd yn cadw'i egwyddorion

Dywedodd un o gynghorwyr Caerdydd ei fod wedi derbyn llythyr bygythiol dienw gan eithafwyr Moslemaidd.

Dywedodd Mohammed Sarul Islam, sy'n cynrychioli ardal Glanyrafon, wrth BBC Cymru ei fod yn cael ei feio am gyrch diweddar gan yr heddlu yng Nghanolfan Gymunedol Treganna.

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i'r honiadau.

Roedd y llythyr yn honni bod Mr Islam yn "elyn i Allah".

Ym mis Ionawr fe aeth heddlu gwrthderfysgaeth i atal cyfarfod yn y neuadd gymuned oherwydd pryderon fod gan y grŵp oedd yn cwrdd gysylltiadau gyda'r grwp gwaharddiedig Muslims Against Crusades.

Aeth swyddogion i'r cyfarfod oherwydd pryderon a leisiwyd gan aelodau o'r gymuned Foslemaidd yn lleol.

Cafodd un dyn ei arestio am ymosod ac am drosedd o dan y drefn gyhoeddus.

"Rwy'n teimlo bod y llythyr yn fygythiol ac yn bersonol i mi a fy nheuluoedd," meddai Mr Islam.

Image copyright BBC news grab
Image caption Cafodd plismyn eu galw i Neuadd Gymunedol Treganna ym mis Ionawr

Ychwanegodd nad oedd yn y ganolfan gymunedol yn ystod y cyrch.

"Doeddwn i ddim yn agos i'r fan," meddai.

"Rydym ni, y gymuned leol, yn condemnio unrhyw fath o eithafiaeth sy'n mynd i gael effaith ar ein cymunedol heddychlon ac amrywiol.

"Byddaf yn sefyll yn erbyn hynny ar unrhyw adeg, pwy bynnag ydyn nhw, ac fe fyddaf yn parhau i sefyll dros y gwir ac yn cadw fy egwyddorion ac amddiffyn fy ward."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.