Galw am gyhoeddi manylion lobïwyr

Senedd Image copyright bbc
Image caption Does dim cofrestr yn y Cynulliad fel yr un yn San Steffan

Mae'r tair gwrthblaid yn y Cynulliad yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion o'u cyfarfodydd gyda lobïwyr.

Eisoes mae Llywodraeth y DU yn gwneud hyn, a hefyd yn ystyried os dylid cyflwyno cofrestr gyfreithlon o bobl sy'n ceisio dylanwadu ar weinidogion.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol wrth raglen Dragon's Eye ar BBC Cymru ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru "ddangos arweiniad" a sefydlu rhestr o lobïwyr yng Nghymru.

Dywedodd gweinidogion y byddan nhw'n ystyried unrhyw ganllawiau a luniwyd yn Llundain cyn penderfynu os oedd budd mewn cael fersiwn Gymreig.

'Sgandal?'

Mae lobïwyr yn dadlau eu bod yn chwarae rôl bwysig wrth geisio gwella polisi a deddfwriaeth, ond mae beirniaid yn honni eu bod yn cael eu talu gan gwmnïau i greu dylanwad afiach ar y broses wleidyddol.

Mae David Cameron wedi disgrifio lobïo fel "y sgandal fawr nesaf" ac mae'n awyddus i osgoi gweld hynny'n digwydd yn ei gyfnod fel prif weinidog.

Mae ei lywodraeth yn ymgynghori os ddylai'r system wirfoddol bresennol gael ei chyfnewid am gofrestr orfodol o bobl sy'n ceisio dylanwadu ar weinidogion.

Mae cwestiynau a ddylid cynnwys undebau llafur ac elusennau, ac a ddylai'r cyhoedd gael gwybod faint y mae cwmnïau yn gwario ar lobïo.

Angen trafodaeth

Cwestiwn arall sy'n cael ei ofyn yw a ddylai unrhyw gofrestr newydd gynnwys y rhai sy'n lobïo'r cyrff datganoledig, gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol.

"Nid rhywbeth i San Steffan yn unig yw hwn," meddai Peter Fazey o'r grwp Unlock Democracy.

"Mae'n rhaid cael trafodaeth iawn ar draws y Deyrnas Unedig am sut y dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n annog pobl i fod yn rhan o broses ddemocrataidd sy'n agored a thryloyw."

Ar hyn o bryd mae llywodraeth y DU yn cyhoeddi rhestr ar-lein o bob cyfarfod y mae ei gweinidogion yn eu cael gyda lobïwyr.

Does dim rhestr debyg yng Nghymru.

'Drysau caeedig'

Dywedodd y tair plaid arall yng Nghymru wrth y BBC bod rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion o'u cyfarfodydd nhw gyda lobïwyr a sefydlu cofrestr.

Dywedodd Eluned Parrott ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Os oes gennych ddim byd i'w guddio yna gadewch i ni weld beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig yn Llywodraeth Cymru.

"Os oes gennych ddim byd i'w guddio, yna does gennych ddim byd i'w ofni felly cyhoeddwch y cyfarfodydd, dangoswch i ni pwy yr ydych yn eu cyfarfod, gadewch i ni sefydlu cofrestr a gadewch i ni weld tipyn o arweiniad ar y mater yma."

Mae'r cyn Aelod Cynulliad Ceidwadol, Jonathan Morgan, yn un o'r nifer o gyn-wleidyddion sydd wedi mynd i weithio ym myd lobïo.

"Rydym yn byw mewn gwlad fechan iawn," meddai.

"Rwy'n credu os fyddai unrhyw swyddog neu gwmni materion cyhoeddus yn ymddwyn mewn modd amheus fe fydden nhw'n cael eu dal yn reit sydyn.

"Rwy'n credu felly fod gennym system o hunanreolaeth dda iawn ar hyn o bryd."

Ond daeth lobïwyr eraill ar y rhaglen i anghytuno, gan ddweud y bydden nhw'n hapus gweld mwy o reolaeth yng Nghymru.