'Dramatig iawn'

Cynog Dafis Image copyright Other
Image caption Cynog: Yr araith yn 'ysbrydoliaeth'

Un sy'n cofio'n glir noson araith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yw'r gwleidydd Cynog Dafis.

Roedd cyn-Aelod Seneddol Ceredigion yn ei ugeiniau cynnar ar y pryd, yn athro dosbarth nos ym Mhontardawe ar Chwefror 13, 1962.

Yn lle gwers Saesneg cafodd y dosbarth gyfle i wrando ar y radio.

"Wy ddim yn cofio ymateb y dosbarth ond roedd clywed llais Saunders Lewis ei hunan yn arwyddocaol iawn i fi," meddai.

"Roedden ni fel cenhedlaeth o bobol ifanc ym Mhlaid Cymru yn clywed am y dyn, Saunders Lewis, ac yn cael darlun ohono fe fel rhyw fath o broffwyd cuddiedig.

"Roedd ei glywed yn areithio am rywbeth gwleidyddol yn ddramatig iawn i ni."

Effeithiodd yr alwad am weithredu'n uniongyrchol dros ddyfodol yr iaith yn fawr arno.

"Roedd yna nifer o bobl ifanc o fewn Plaid Cymru oedd am weld rhyw fath o weithredu uniongyrchol yn nhraddodiad Pen-y-berth," meddai.

'Yn ddiamynedd'

"Roeddwn i'n naïf ac yn ffôl ond am weld rhywbeth felly yn digwydd - ac yn ddiamynedd gydag arweinyddiaeth y blaid oedd am gadw at y dulliau etholaethol.

"Roedd yr alwad am weithredu anghyfreithiol yn apelio'n fawr i rai ohonon ni."

Image copyright Other
Image caption Darlledwyd araith Tynged yr Iaith ar Chwefror 13, 1962

Sefydlodd Cynog a'i gyfeillion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er syndod Saunders Lewis.

"... pan roeddwn i'n gadeirydd aethon ni ddwywaith i weld Saunders Lewis i ofyn am ei gyngor e ynghylch sut i weithredu.

"Roedd yn gofiadwy iawn er roedd ei gyngor ef yn wahanol i'r trywydd roedden ni'n ei ddilyn.

"Roedd yn galw ar Blaid Cymru i weithredu'n dor-cyfreithiol dros yr iaith ond beth wnaethon ni oedd sefydlu'r gymdeithas, corff ar wahân. Doedd e ddim wedi rhagweld hynny."

Cred Saunders oedd y dylai'r mudiad iaith ganolbwyntio ar lywodraeth leol yng Nghymru.

"Beth roedden ni wedi 'i wneud oedd targedu cyrff Prydeinig fel y Swyddfa Bost, y Swyddfa Gartref a'r DVLA.

"Serch hynny, roedd yn gwerthfawrogi beth oedd y gymdeithas yn 'i wneud."

Sefyllfa wahanol

Erbyn heddiw mae Cynog yn credu bod yr iaith mewn sefyllfa hollol wahanol nag yr oedd hi yn 1962.

"Yn gynta, mae angen mudiad pwyso sy'n defnyddio dulliau cyfreithlon fel lobïo a digon o gefnogaeth oddi wrth gefnogwyr yr iaith," meddai.

Dywedodd y byddai'r mudiad yn pwyso am gydnabyddiaeth i'r Gymraeg ac am ystyriaeth ganolog iddi mewn gwahanol feysydd.

"Yr ail elfen ... sy'n hollol allweddol yw'r angen am fudiad sy'n ysbrydoli pobl o bob oed i arddel yr iaith yn eu gweithgareddau bob dydd.

"Yr hyn yw'n sylwi arno yw tueddiad Cymry Cymraeg, yn arbennig rhai amlwg, i ddefnyddio Saesneg mewn sefyllfa gyhoeddus hyd yn oed pan fo pob cyfle a darpariaeth i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n fater difrifol iawn."

Llawer llai

Er enghraifft, meddai, roedd llawer llai o Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y Cynulliad.

"Pe bai siaradwyr Cymraeg dim ond yn gwneud y penderfyniad i arddel yr iaith a'i defnyddio bob tro ... fe fyddai hynny'n bellgyrhaeddol ac yn sefydlu'r potensial am dwf yn hanes yr iaith. Does wybod beth yw diwedd hynny."

Dywedodd fod angen newid pwyslais, o warchod y Gymraeg i'r meddylfryd o gynyddu a helaethu'r iaith.

"Dyna beth sy' angen i greu hyder a balchder ymysg siaradwyr Cymraeg."