Pêl-droed Ewropeaidd i ddinas Bangor?

Nantporth Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae gan gartref newydd y clwb ar lan Y Fenai 1,100 o seddi

Wedi i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor ennill eu gêm gynghrair gyntaf yn eu stadiwm newydd - Nantporth - ddydd Sadwrn, mae'r tîm yn obeithiol o ennill lle yng nghystadlaethau Ewrop unwaith eto'r tymor hwn.

Ond daeth hwb ychwanegol i'r tîm gyda'r newyddion y gallan nhw chwarae gêm Ewropeaidd yn eu stadiwm newydd.

Ers blynyddoedd, mae'r tîm wedi gorfod chwarae gemau cartref yng nghystadlaethau Ewrop naill ai yn Y Rhyl neu ar y Cae Ras yn Wrecsam, gan nad oedd stadiwm Ffordd Farrar yn cydymffurfio â rheolau'r corff rheoli pêl-droed yn Ewrop, UEFA.

Yn ôl y rheolau hynny, rhaid i bob stadiwm gael 1,500 o seddi.

Eithriad

Er hynny mae gan bob cymdeithas bêl-droed yr hawl i wneud cais i gael eu heithrio o'r rheol yma bob tymor, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo i wneud hynny am y tymor nesaf.

Oherwydd yr eithriad yma, dim ond lle i 1,000 o bobl eistedd sydd angen ar stadiwm er mwyn bod yn gymwys.

Roedd caeau Llanelli a'r Seintiau Newydd eisoes yn disgyn i'r categori yma, a bellach mae stadiwm newydd Bangor yn Nantporth yn y categori yn ogystal.

Gyda Bangor bedwar pwynt yn glir ar frig tabl Uwchgynghrair Cymru ar hyn o bryd, mae'r gobeithion yn uchel felly y bydd pêl-droed Ewropeaidd yn dychwelyd i'r ddinas am y tro cyntaf ers 1998.

'Awyrgylch gwell'

"Mae hyn yn newyddion gwych i Fangor," meddai cadeirydd y clwb Dilwyn Jones.

"O'n safle presennol ar frig yr Uwchgynghrair, rydym yn teimlo fod gennym gyfle da iawn i fod yn gymwys i chwarae'n Ewrop eto ar ddiwedd y tymor.

"Os lwyddwn ni i wneud hynny, bydd medru chwarae gemau ym Mangor yn golygu gwell enillion ariannol i'r clwb, awyrgylch cartref gwell i'r chwaraewyr ac wrth gwrs profiad llawer mwy cyfleus i'n cefnogwyr.

"Eisoes mae gennym dros 1,000 o seddi yn Nantporth, ac yn ceisio cynyddu hynny i 1,500 cyn gynted â phosib fel y gallwn gynnal mwy o gemau cynrychiadol yma a gwella proffil pêl-droed yn yr ardal."

Y tro diwethaf i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor chwarae gêm Ewropeaidd yn y ddinas oedd pan ddaeth FC Haka o'r Ffindir i Ffordd Farrar yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn 1998.

Collodd Bangor y gêm honno o 2-0, ac maent wedi chwarae gemau cartref ers hynny yn y Belle Vue, Y Rhyl, neu'r Cae Ras yn Wrecsam.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.