Cynulliad: Sefydlu grŵp amlbleidiol i hybu'r iaith

Keith Davies AC Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Etholwyd Keith Davies AC fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol

Bu'n wythnos hanesyddol i'r Gymraeg yn y Cynulliad wrth i aelodau sefydlu grŵp trawsbleidiol ar gyfer hybu'r iaith.

Cafwyd cynrychiolaeth gan bob un o'r pleidiau ac etholwyd Keith Davies AC fel cadeirydd.

Bydd Mudiadau Dathlu'r Gymraeg yn gweithredu fel ysgrifennydd ar ran y grŵp.

Cylch gorchwyl sylfaenol y grŵp fydd trafod ac amlygu materion sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg; cydweithio i sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn deg yn y Cynulliad a'r tu allan iddo a hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o unrhyw fater sy'n effeithio ar y Gymraeg.

Pum maes

Amlygwyd pum maes penodol y dylid eu blaenoriaethu:-

  • Comisiynydd y Gymraeg & Mesur y Gymraeg.
  • Strategaeth Iaith y Llywodraeth;
  • Dyfodol Cymunedau Cymraeg;
  • Addysg
  • Y Cyfryngau.

Bwriedir cynnal oddeutu pedwar cyfarfod y flwyddyn, gyda'r cyfarfod nesaf ym mis Mawrth yn canolbwyntio ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sef y gyfundrefn newydd fydd yn gyfrifol am ehangu a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol.

Bydd y grŵp yn gwahodd y Comisiynydd Iaith i'w hannerch yn y cyfarfod dilynol.

Dywedodd Rebecca Williams ar ran Mudiadau Dathlu'r Gymraeg ei bod yn croesawu'r ffaith fod grŵp trawsbleidiol ar gyfer yr iaith Gymraeg bellach wedi'i sefydlu'n swyddogol.

Bwlch amlwg

"Calonogol iawn oedd gweld fod diddordeb eang yn y syniad ynghyd â phrofi brwdfrydedd gwirioneddol yr holl ACau yn y cyfarfod cychwynnol hwn," meddai.

"Gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn dechrau yn ei swydd fis Ebrill, mae cyfnod newydd a chyffrous o'n blaenau.

"Gobeithiwn y gwelwn ystod ehangach o wasanaethau Cymraeg ar gael yn hwylus, a hynny er lles pawb yng Nghymru, ac yn enwedig i'r 70,000 o aelodau yr ydym ni'n eu cynrychioli.

Dywedodd Keith Davies AC: "Bydd cyfnod y Cynulliad hwn yn un cyffrous iawn i'r iaith Gymraeg; gyda sawl datblygiad, megis Comisiynydd yr Iaith, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a'r heriau o ganlyniad i doriadau cyllideb S4C."

"Roeddwn yn synnu nad oedd grŵp o'r fath eisoes wedi'i sefydlu ond rwy'n hapus ei fod nawr yn weithredol, ac yn medru cychwyn ar ei waith ar unwaith i sicrhau lle a sylw teg i'r iaith Gymraeg."

Straeon perthnasol