Arweinydd: Pleidlais diffyg hyder

Swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Yng Nghaerfyrddin mae swyddfeydd y cyngor sir

Mae arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Meryl Gravell, yn wynebu pleidlais diffyg hyder ddydd Mercher nesaf.

Peter Hughes Griffiths, arweinydd Grŵp Plaid Cymru, fydd yn cyflwyno'r cynnig.

Honnodd ei fod yn anfodlon ar sylwadau'r arweinydd yng nghanolfan elusen gyffuriau Chooselife yn Llanelli ar Ionawr 12.

Clymblaid y Grŵp Annibynnol (29 cynghorydd) a Llafur (10) sy'n rheoli'r cyngor lle mae cyfanswm o 74 o gynghorwyr.

Honnodd Mr Griffiths fod sylwadau'r arweinydd yn "dwyn anfri annerbyniol ar staff ac aelodau'r cyngor sir."

Gweithio

Roedd hi, meddai, wedi dweud na fyddai'r cyngor yn wynebu unrhyw broblemau pe bai'r 9,000 o staff yn gweithio mor galed â rheolwr canolfan Choose Life.

Mae'r cynnig diffyg hyder hefyd yn honni ei bod hi wedi dweud bod protestwyr oedd am ddiogelu gwasanaethau Ysbyty Tywysog Philip yn "ddihirod".

Plaid Cymru yw'r grŵp mwyaf ar y cyngor gyda 30 o aelodau.

Mewn datganiad dywedodd yr arweinydd fod hon yn ymdrech bitw gan Plaid Cymru i ddefnyddio staff y cyngor a phrotestwyr Ysbyty Tywysog Philip er mwyn cael sylw.

'Amddiffyn'

"Rwy wedi egluro bod y sylwadau am 'ddihirod' wedi cyfeirio at leiafrif o bobl oedd wedi dod yno i wawdio'r rheolwr a staff Choose Life - mae hynny'n glir i bawb ei weld ar ddeunydd ffilm ar YouTube.

"Rwy wedi egluro fy sylwadau ynglŷn â'r staff. Wrth edrych yn ôl, roedd y geiriau yn rhai anffodus ond doedd dim bwriad i feirniadu staff y cyngor mewn unrhyw fodd.

"Y cwbl oeddwn i yn ei wneud oedd amddiffyn y rheolwr a staff Chooselife.

"Rwyf wedi ymddiheuro yn gyhoeddus ac yn uniongyrchol i'r staff am unrhyw gamddealltwriaeth.

"Rwy'n ddiolchgar i'r bobol sy wedi dangos cefnogaeth ac wedi bod mor garedig."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.