Dathlu celfyddyd y cwilt yn Llangollen

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Un o'r artistiaid sydd yn cymryd rhan eleni yw Ferret, fydd yn mynychu'r arddangosfa bob dydd ac yn siarad gydag ymwelwyr. Dyma enghraifft o'i waith.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwiltiau ar wahanol themâu, gan gynnwys un gan Ferret sydd wedi ei seilio ar lun o nofel graffig gan Cy Dethan
Disgrifiad o’r llun,
Tra bod cwiltiau Ferret i'w gweld ym Mhafiliwn Llangollen bydd cwiltiau gan Magie Relph yn cael eu harddangos yn amgueddfa'r dref
Disgrifiad o’r llun,
Mae Magie Relph yn gweithio gyda thecstilau Affricanaidd
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Susan Briscoe, un o drefnwyr yr arddangosfa, eu bod am ddangos y gall cwiltiau gael eu hystyried yn gelfyddyd.
Disgrifiad o’r llun,
Yn ogystal â gwaith y brif arddangoswyr mae gwaith nifer o gwiltwyr eraill i'w gweld yn yr arddangosfa yn Llangollen

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol