Parc beicio mynydd newydd i Ferthyr Tudful

Beicwyr mynydd Image copyright Other
Image caption Y disgwyl yw i'r parc agor tua diwedd 2013

Bydd parc beicio newydd yn cael ei adeiladu ym Merthyr Tudful fel rhan o gynllun llwybrau beicio mynydd De Cymru.

Caiff y parc beicio ei adeiladu yn ardal Coed Gethin.

Mae Cognation, llwybrau beicio mynydd De Cymru wedi datgan mai Bike Park Wales fydd yn datblygu, adeiladu a rheoli'r safle newydd.

Bydd gan y parc beicio newydd ganolfan ymwelwyr, cyfleusterau ar y safle, llwybrau ar i lawr, sengl a thraws gwlad a gwasanaeth cludo.

Bydd y parc yn agor tua diwedd 2013.

'Hwb anferth'

Mae Cognation hefyd wrthi'n creu llwybrau newydd ym Mharc Coedwig Afan a Cwmcarn.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Edwards, arweinydd Cyngor Merthyr Tudful: "Bydd y datblygiad newydd hwn yn hwb anferth i dwristiaeth ac economi ehangach Merthyr Tudful, a'r gobaith yw y bydd hyn yn annog pobl leol ac ymwelwyr i fwynhau'r awyr agored."

Yn y cyfamser mae Cognation wedi lansio gwefan newydd yn amlygu'r llwybrau a'r cyfleusterau beicio mynydd sydd ar gael yn y rhanbarth.

Mae'r wefan newydd yn rhoi gwybodaeth am y canolfannau llwybrau gwahanol, gan ganolbwyntio ar y llwybrau a'r cyfleusterau sydd ar gael.

Hefyd, mae'n cynnig mapiau llwybr gwahanol ar gyfer pob llwybr ac yn nodi lefel anhawster pob llwybr.

Prosiect partneriaeth yw Cognation rhwng cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Caerffili, a Merthyr, a'r Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.