Abertawe 1-1 Chelsea
- Cyhoeddwyd

Abertawe 1-1 Chelsea
Wedi buddugoliaeth yn erbyn Arsenal yn eu gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty, roedd yr Elyrch yn llawn hyder wrth groesawu Chelsea yno nos Fawrth.
Roedd Chelsea yn ffodus o beidio mynd ar ei hôl hi yn gynnar, gyda thacl hwyr Ivanovic yn atal Danny Graham rhag sgorio.
Ivanovic ddaeth i'r fei i glirio ergyd Gulfi Sigurdsson oddi ar y llinell, cyn i Petr Cech yn y gôl arbed cynnig Joe Allen.
Fe ddilynodd cyfnod o bwyso gan yr ymwelwyr gyda Mata, Luiz a Romeu yn methu cyfleoedd, ond yna fe ddaeth ymosodiad llewyrchus i Abertawe.
O gic rydd Sigurdsson, daeth y bêl at Scott Sinclair, ac fe sgoriodd yntau ei seithfed gôl y tymor hwn a hynny yn erbyn ei gyn glwb.
Ymateb
Roedd disgwyl ymateb gan yr ymwelwyr ac fe ddaeth hynny wedi'r egwyl.
Daeth cyfres o gyfleoedd wrth i Chelsea bwyso, ond fe ddaeth yr eilydd Michael Essien yn agos gyda chynnig aeth fodfeddi dros y trawst.
Gwellodd pethau i Abertawe wrth i Ashley Cole weld y cerdyn coch gyda phedwar munud o'r gêm yn weddill am ail drosedd wael.
Ond aeth torcalon i'r Elyrch yn eiliadau olaf yr amser ychwanegwyd am anafiadau.
Wrth i Neil Taylor geisio clirio'r bêl yn ei gwrt cosbi ei hun, llwyddodd i'w gosod yn ei rwyd ei hun.
Bydd ffyddloniaid y Liberty yn falch o'r un pwynt, ond yn mynd adref yn credu y dylen nhw fod wedi cael tri.
Tabl yr Uwchgynghrair
Chwefror 2, 2012.