Dyn 18 oed yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Yr heddlu ym Mhentyrch wedi tân mewn byngalo ddydd Gwener

Mae dyn 18 oed yn y ddalfa ar ôl bod yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafwyd hyd i gorff David Evans, 64 oed, ym Mhentyrch ger Caerdydd ychydig wedi 2:30am fore Gwener.

Roedd tân wedi bod yn ei gartref.

Bydd Bleddyn Rees King o ardal Abercynon yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol