Achub cerddwyr yn Eryri

Cafodd dau o bobl eu hachub ddydd Sul ar ôl mynd i drafferthion wrth gerdded yn Eryri.

Roedd y cwpl o Rhaeadr, Powys, wedi bod yn cerdded yn y Carneddau ac yn dychwelyd lawr crib 2,000 troedfedd wrth iddi ddechrau tywyllu a bwrw eira.

Aeth aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen i dywys y cwpl i ddiogelwch gan ddefnyddio rhaff i helpu'r fenyw.

Dywed yr achubwyr fod gan y cwpl, sydd yn eu 20au hwyr, yr offer priodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.