Prys Edwards
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am ail fudiad i'r Urdd

27 Ionawr 2012 Diweddarwyd 06:51 GMT

Wrth i fudiad Urdd Gobaith Cymru ddathlu ei benblwydd yn 90 oed mae mab y sylfaenydd, Syr Ifan ab Owen Edwards, wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen sefydlu ail fudiad i gyd-redeg â'r Urdd.

Dywed Prys Edwards y byddai'r mudiad hwnnw ar gyfer rhieni.

Mae Mr Edwards hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol fel ymddiriedolwr gyda'r Urdd am resymau iechyd, a hynny wedi 47 o flynyddoedd o wasanaeth.

Adroddiad Iola Wyn.