Llofruddio: Mwy o amser i holi

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunOther
disgrifiad o’r llunRoedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun yn Llanllwni

Mae'r heddlu wedi cael mwy o amser i holi dyn mewn cysylltiad â llofruddio menyw 67 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Daethpwyd o hyd i Irene Lawless yn farw yn ei chartref ar Stad Bryndulais yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, brynhawn Llun.

Maen nhw'n holi dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Cafodd dau ddyn 20 oed a 30 oed, oedd wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y tri eu harestio yng Nghaint ddydd Mawrth lle cafwyd hyd i gar Ms Lawless.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol