Gwaith artistiaid rhestr fer Artist Mundi 2012

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Mae rhestr fer yr artistiaid ar gyfer Gwobr Artes Mundi 5 (2012) wedi ei gyhoeddi. Mae saith artist arno gan gynnwys Tania Bruguera o Cuba. Dyma "Sin Titulo" sy'n ddarn fideo.
Disgrifiad o’r llun, Darn arall o waith Tania Bruguera yw Tatlin's Whispers
Disgrifiad o’r llun, O Mecsico y daw Teresa Margolles. Dyma ei gwaith "What Else Could We Talk About, Celaning" sy'n cynnwys dwr a gwaed ar lawr arddangosfa o'r bobl â lofruddwyd ym Mecsico sy'n cael ei lanhau o leiaf unwaith y dydd.
Disgrifiad o’r llun, "In the Air" yw darn arall o waith Teresa Margolles sydd wedi ei henwi ar y rhestr fer.
Disgrifiad o’r llun, Mae Apolonija Šušteršič yn dod o Slofenia a dyma ei gwaith "Community Oavillion".
Disgrifiad o’r llun, "Garden Service" yw hwn o waith Apolonija Šušteršič. Dyma'r bumed flwyddyn i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae 'na wobr o £40,000 i'r enillydd.
Disgrifiad o’r llun, O Lithiwania y daw Darius Mikšys a dyma ei waith "Behind the White Curtain".
Disgrifiad o’r llun, Artist Oarent's Meeting yw darn arall o waith Darius Mikšys a fydd yn cystadlu am y wobr sy'n cael ei gynnig bob dwy flynedd.
Disgrifiad o’r llun, Un o Sweden yw Miriam Bäckström, un o bum merch sydd ar y rhestr fer. Dyma ei gwaith "The Opposite of Me is I" sy'n ddarn tapestri.
Disgrifiad o’r llun, Dyma ddarn "Attractions/Red Vitrine" gan Miriam Bäckström. Bydd bob un o'r chwech artist sydd ddim yn dod i'r brig yn derbyn gwobr newydd o £4,000 yr un.
Disgrifiad o’r llun, Yr unig artist o Brydain yw Phil Collins o Loegr. Dyma ei waith "Auto-Kino!"
Disgrifiad o’r llun, Ail ddarn o waith Phil Collins yw "soy mi madre", ffilm mewn Sbaeneg. Dyma un o ddau ddyn sydd ar y rhestr fer.
Disgrifiad o’r llun, Artist o India yw Sheela Gowda. Fe gychwynnodd ei gyrfa yn gwneud peintiadau ond mae hi bellach yn gwneud gwaith cerfluniol. Dyma ei gwaith "Of All People"
Disgrifiad o’r llun, Dyma waith "Collateral" gan Sheela Gowda. Fe fydd yr holl waith i'w gweld mewn arddangosfa arbennig yn yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd Cymru o Hydref 6 2012 ymlaen.

Straeon perthnasol