Cyhoeddi artistiaid rhestr fer Gwobr Artes Mundi 2012

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y chwech sydd ddim yn ennill yn derbyn gwobr newydd o £4,000 yr un

Artistiaid o Cuba, India, Lithuania, Mecsico, Slofenia, Sweden a Llundain sydd wedi cyrraedd rhestr fer gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU.

Hon yw'r bumed flwyddyn i Artes Mundi gael ei chynnal - a gweithred a pherfformiad sy'n cysylltu'r artistiaid eleni.

Bydd beirniaid rhyngwladol yn dyfarnu'r wobr o £40,000 yn ystod arddangosfa o'r gwaith.

Bydd pob un o'r artistiaid eraill ar y rhestr fer yn cael gwobr newydd o £4,000 yr un.

Oherwydd partneriaeth newydd gydag oriel Mostyn yn Llandudno bydd artist ar y rhestr fer yn cyflwyno sioe unigol yno yn 2013.

Y saith artist ar y rhestr fer yw Miriam Bäckström (Sweden); Tania Bruguera (Cuba); Phil Collins (Lloegr); Sheela Gowda (India); Teresa Margolles (Mecsico); Darius Mikšys (Lithuania) ac Apolonija Šušteršič (Slofenia).

'Profiad byw'

O blatfform Phil Collins i sêr teledu realaeth i gynildeb Teresa Margolles wrth fynd i'r afael â thrais y byd cyffuriau ym Mecsico, mae'r saith yn defnyddio deunyddiau, gweithrediadau a strategaethau i gynnig sylwadau am gymdeithas, meddai'r datganiad.

Y ddau ddewiswr oedd Sofía Hernández Chong Cuy, Curadur Celf Gyfoes Colección Patricia Phelps de Cisneros, Efrog Newydd, ac Anders Kreuger, Curadur MHKA yn Antwerp, Gwlad Belg.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
"In the Air," darn o waith Teresa Margolles

Roedd dros 750 o enwebiadau, gan gynnwys 576 o artistiaid unigol o dros 90 o wledydd.

Mae rhai o'r artistiaid yn delio â cyd-destunau diwylliannol neu hanesyddol penodol tra bod eraill yn ystyried themâu ehangach.

"Rydym wrth ein bodd ag ansawdd ragorol y rhestr fer a luniwyd o ddewis cryf iawn o enwebiadau," meddai Ben Borthwick, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Artes Mundi ymunodd â'r tîm o Tate Modern yn 2010.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r artistiaid i Gymru a chreu arddangosfa ym mis Hydref fydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ymgysylltu â'r gwaith mwyaf cyffrous celf gyfoes ryngwladol."

Dywedodd Mr Kreuger fod llunio rhestr fer yn "anrhydedd ac yn gyfrifoldeb difrifol iawn".

Arddangosfa

"Roedd yn her anferthol i ddewis saith artist o blith casgliad o unigolion hynod fedrus.

"Rydym wedi dewis saith artist sy'n wahanol iawn, mor dalentog â'i gilydd ac yn perthyn i genedlaethau gwahanol i arddangos eu gwaith yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol o Hydref 6 ymlaen."

Bydd yr arddangosfa am 14 wythnos yn yr orielau celf newydd.

Caiff Artes Mundi 2012 ei noddi gan Bank of America Merrill Lynch fel rhan o'i Rhaglen Celfyddydau a Diwylliant a chefnogaeth ariannol gan Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Caerdydd.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol