125 o swyddi newydd McDonald’s i Gymru

Logo McDonald's Image copyright Getty Images
Image caption Mae McDonald’s wedi bod ym Mhrydain ers 1974

Mae McDonald's UK wedi cyhoeddi eu bod am greu 125 o swyddi newydd yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhan o'u cynlluniau i gynnig 2,500 o swyddi newydd drwy Brydain, gan ychwanegu at yr 87,500 sydd eisoes yn gweithio i'r cwmni.

Maen nhw'n disgwyl y bydd hanner y swyddi yn mynd i bobl o dan 25 oed a 30% yn mynd i'r rhai sy'n chwilio am eu swydd gyntaf er mwyn rhoi hwb iddyn nhw.

"Bydd y swyddi yma yn cael eu creu ar draws ein 62 bwyty yng Nghymru," meddau Jez Langhorn, Is-lywydd Pobl i McDonald's UK.

"Bydd y rhan helaeth o'r swyddi yn dod oherwydd twf yn ein busnes wrth i ni roi gwedd newydd i'n bwytai, gan gynnwys cynnig rhagor o ddewis ar ein bwydlen a thechnoleg newydd megis Wi-Fi.

"Mae hyn i gyd wedi arwain at gynnydd yn ein cwsmeriaid.

"Mae o hefyd yn newyddion da i'n cadwyn gyflenwol; mae gwerthu rhagor o nwyddau yn dda i ffermwyr Prydain ac Iwerddon."

Mae McDonald's wedi creu 13,500 o swyddi newydd ym Mhrydain dros y tair blynedd diwethaf.

Wrth ymweld â'u chanolfan hyfforddiant yn Llundain, dywedodd Dirprwy Brif Weiniodg Prydain Nick Clegg, bod y swyddi newydd yn "newyddion gwych".

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.