Ceffylau Cymru yn rhan o War Horse

Dylan Jones gyda Diablo Image copyright BBC news grab
Image caption Mae Dylan Jones yn darparu ceffylau ar gyfer ffilmiau a chyfresi teledu

Mae hyfforddwr ceffylau o Lanberis yn falch gyda'r rhan y chwaraeodd yn ffilm ddiweddaraf Steven Spielberg, War Horse.

Ymunodd Dylan Jones, 35 oed, o gwmni Dolbadarn Film Horses â'r cynhyrchiad am ddau fis yn 2010.

Roedd yn darparu 15 o'i geffylau gorau.

Mae'r hyfforddwr i'w weld ei hun mewn sawl golygfa, gyda'i geffyl Diablo, fel rhan o ymosodiad milwyr Prydain ar Yr Almaen.

Mae Mr Jones hefyd wedi gweithio ar set Merlin gan BBC Cymru; Roth of the Titans a Snow White and the Huntsman.

Mae'n darparu ceffylau ac yn cyd-lynu campau ar set ffilmiau.

Sefydlwyd y cwmni yn y 1970au gan dad Mr Jones, Aneuryn.

"Es i a fy ffrindiau i weld y ffilm a dweud, 'yli, dyna ti Dylan - a dyna ti eto'!" meddai.

"Roedd o'n brofiad bendigedig mae'n rhaid dweud a chael gweithio gyda Steven Spielberg.

'Gwaith caled'

"Roedd o'n ddyn reit ddistaw ac yn gwybod ei waith yn iawn.

"Fydda fo'n rhoi cyfarwyddiadau i'r cydlynydd campau, fo'n pasio nhw mlaen i feistr y ceffylau ac ymlaen i ni.

"Roedd o'n waith caled am dros 10 awr y dydd ar y ceffylau yn adlewyrchu gwaith y milwyr yn y rhyfel."

Image copyright AP
Image caption Mae'r ffilm wedi derbyn sawl enwebiad ar gyfer gwrobau BAFTA ac Oscar

Cafodd y ffilmio ei wneud ar stad Dug Wellington ger Basingstoke ac yn Boreham Wood yn Surrey.

Dywedodd ei fod yn cychwyn hyfforddi ceffylau yn ifanc er mwyn iddo allu asesu eu gallu i fod ar set ffilm.

"Dwi'n gweithio efo nhw'n ddyddiol ac yn asesu cymeriad y ceffyl gan fod yn rhaid iddyn nhw drystio ni, a ni eu trystio nhw," eglurodd.

"Yn ara' bach 'dan ni'n eu hyfforddi i fynd trwy'r tân, gorwedd i lawr a chodi ac ati.

"Mae o'n cymryd blynyddoedd a rhaid gwneud yn siŵr bod y ceffylau yn mwynhau eu gwaith, yn ddigon saff ar y set ac i gael actor ar eu cefnau.

"Y gamp gorau dwi wedi ei wneud oedd mynd trwy dân ar set Merlin."

Dywedodd fod sawl golygfa roedd o wedi cymryd rhan ynddyn nhw wedi cael eu torri o waith gorffenedig Spielberg.

Mae War Horse wedi derbyn chwe enwebiad sawl enwebiad am wobrau.

Chwe enwebiad Oscar gan gynnwys y llun gorau a phump BAFTA gan gynnwys y gerddoriaeth wreiddiol orau.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.