Apêl wedi ymosodiad rhywiol difrifol yn Aberdaugleddau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol honedig ar fenyw 19 oed yn Aberdaugleddau.
Yn ôl y fenyw, roedd rhywun wedi ymosod arni mewn ale ger archfarchnad Lidl rhwng 3:00am a 4.20am ddydd Sadwrn.
Mae hi'n derbyn cymorth arbenigol gan swyddogion hyfforddedig.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Roach:
"Rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd y fenyw yn cerdded yn yr ardal hon neu oedd yn y cyffiniau ar y pryd i ddod ymlaen gan y gallant fod â gwybodaeth bwysig iawn a allai gynorthwyo'r ymchwiliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn ymchwilio i adroddiadau am ymosodiad rhywiol ar fenyw 17 oed yn Llanelli.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig mewn lôn ar Ffordd Capel Isaf tua 4.15am ddydd Sadwrn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth am unrhyw un o'r ymosodiadau gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.