Diffynnydd achos llofruddiaeth yn 'cyfadde cael rhyw'

Nikitta Jade Grender Image copyright Other
Image caption Roedd Nikitta Grender yn 19 oed ac yn disgwyl plentyn o fewn pythefnos

Mae dyn ar gyhuddiad o lofruddio merch feichiog wedi cyfadde cael rhyw gyda hi oriau cyn ei marwolaeth.

Cafodd Nikitta Grender, 19 oed, ei llofruddio a'i threisio yn ei fflat yng Nghasnewydd ym mis Chwefror 2011.

Mae Carl Whant, 27 oed o ardal Betws, Casnewydd, wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, dinistrio plentyn, hynny yw'r drosedd o ladd babi a allai fod wedi ei eni'n fyw, treisio a chynnau tân yn fwriadol.

Ar y pryd roedd Ms Grender yn disgwyl babi yr oedd hi wedi ei alw'n Kelsey-May.

Pan ddaethpwyd o hyd i'w chorff roedd wedi ei losgi ac mae'r heddlu'n credu bod y llofrudd wedi rhoi'r gwely ar dân er mwyn cuddio tystiolaeth.

Newid stori

Mae Mr Whant yn gyfyrder Ryan Mayes, 17 oed, sef cariad Ms Grender a thad ei phlentyn.

Roedd y ddau'n gweithio gyda'i gilydd ac wedi bod allan yn yfed noson y llofruddiaeth.

Image copyright PA
Image caption Carl Whant yn cyrraedd y llys ar gyfer gwrandawiad blaenorol

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Mr Whant, cyn-fownser clwb nos, wedi cyfadde iddo gael rhyw gyda Ms Grender.

Roedd wedi gwadu hyn pan gafodd ei arestio ond fe newidiodd ei stori.

Dafnau o waed

Honnwyd bod y diffynnydd wedi gadael parti er mwyn mynd i ôl sigaréts o gartref ei fam-gu.

Ond dywedodd Gregg Taylor QC ar ran yr erlyniad ei fod wedi bod yn absennol o'r parti am awr a hanner.

Clywodd y llys fod dafnau gwaed ar ddillad y diffynnydd yn cyfateb i DNA Ms Grender.

Roedd arbenigwyr wedi dod o hyd i olion gwaed wedi ei ddyfrhau ar grys glas a thu mewn siaced yr oedd Mr Whant wedi eu gwisgo.

Golchi

Dywedodd yr erlynydd fod dillad Mr Whant y noson y cafodd Ms Grender ei lladd wedi eu trosglwyddo i'r heddlu ar ôl cael eu golchi.

Roedd y diffynnydd wedi dweud wrth blismyn y byddai unrhyw waed ar ei ddillad yn dyddio'n ôl i ffrae fisoedd ynghynt.

Clywodd y rheithgor nad oedd y gyllell laddodd Ms Grender a'i merch yn y groth wedi cael ei darganfod, er bod olion o waed wedi eu canfod y tu mewn i gar Mr Whant.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.