Cadw dynes yn y ddalfa am geisio llofruddio ei gŵr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun, Cafodd yr heddlu eu galw i'r safle toc cyn 1.30am ddydd Sul

Cafodd dynes 49 oed wybod y bydd yn parhau yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys y goron ar gyhuddiad o geisio llofruddio ei gŵr.

Fe fydd Wendy Burns o Heol y Bryn, Y Fflint, yn ymddangos o flaen y llys eto ar Fawrth 9.

Mae hi wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio Derek Burns, 62 oed.

Honnir iddi ei drywanu yn eu cartref yn y dref ar Ionawr 8.

Doedd 'na ddim ple gan ei bargyfreithiwr, Jonathan Duffy, yn y gwrandawiad cychwynnol o flaen y Barnwr Merfyn Hughes QC yn Llys y Goron Caernarfon.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol