Darganfod darnau ifori a throed anifail

Roedd 10 addurn ifori a throed afonfarch (hippopotamus) ymhlith yr eitemau a gafodd eu cymryd oddi wrth deithiwr ym Maes Awyr Caerdydd dros y penwythnos.
Daeth Asiantaeth Ffiniau'r DU o hyd i'r eitemau ddydd Sadwrn, wrth i ddynes 58 oed o ardal Caerdydd lanio yn y maes awyr ar ôl hedfan o Zambia, trwy Amsterdam.
Penderfynodd swyddogion archwilio ei phac, gan ddarganfod deg darn ifori a throed anifail - credir bod hwnnw'n perthyn i afonfarch ifanc.
Wrth i'r ddynes gael ei holi, dywedodd ei bod wedi bod yn clirio tŷ perthynas yn Zambia ac nad oedd yn sylweddoli bod angen trwydded i ddod ag eitemau o'r fath i'r DU.
Mae 'na gyfyngiadau ar yr hawl i ddod ag ifori i'r wlad o dan y Confensiwn mewn Masnach Rhyngwladol a Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES), a dim ond trwy wneud cais llwyddiannus am y trwyddedau cywir mae modd gwneud.
Rheolau a chyfyngiadau
Cafodd yr eitemau eu cadw gan yr asiantaeth a chafodd y ddynes ganiatâd i adael y maes awyr ar ôl cael ei holi.
Meddai Alex Lawther, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asiantaeth Ffiniau'r DU yng Nghymru:
"Dyw'r ffaith fod eitemau fel hyn yn gyfreithlon mewn gwledydd eraill ddim yn golygu bod modd dod â nhw i'r DU.
"Fe ddylai teithwyr fod yn ymwybodol o'r rheolau a chyfyngiadau ar rai eitemau. Dydych chi ddim yn cael dod ag anifeiliaid neu blanhigion sydd mewn perygl ac yn cael eu hamddiffyn yn rhyngwladol i mewn i'r wlad heb drwydded CITES, gan gynnwys cynnyrch sy'n cael ei wneud o'r anifeiliaid neu'r planhigion hyn."
Mae tua 5,000 o rywogaethau o anifeiliaid a 29,000 math o blanhigyn yn cael eu hamddiffyn gan CITES.
Daeth yr eitemau i'r fei ym maes awyr Caerdydd wythnosau wedi i'r Asiantaeth Ffiniau ym maes awyr Heathrow ddod o hyd i lewpard hela byw o Affrica.
Cafodd yr anifail hwnnw ei gadw a bydd yn cael ei roi mewn parc bywyd gwyllt rhywle yn y DU.