Dwy ddamwain ar yr M4 yn yr un ardal

Roedd dwy ddamwain yn yr un ardal o'r M4 ddydd Mercher.

Roedd un lôn ddwyreiniol wedi ei chau yn ardal Abertawe ar ôl damwain rhwng sawl cerbyd.

Ac mae tagfeydd ar y draffordd ar ôl y ddamwain rhwng Cyffordd 47 Penllergaer a Chyffordd 46 Llangyfelach.

Roedd tri char yn y ddamwain tua 8.15am.

Cafodd un ddynes driniaeth yn y fan a'r lle ac mae tri arall wedi cael triniaeth am sioc.

Fe adawodd y gwasanaeth tân y safle am 8.59am.

Roedd damwain arall rhwng dau gar am 9am ar y ffordd ymuno â'r M4 ger Cyffordd 47 tua'r dwyrain.

Doedd na ddim anafiadau ac fe adawodd y gwasanaeth y safle am 9.11am.

Mae'r draffordd wedi ail agor erbyn hyn ond mae tagfeydd yn parhau yn yr ardal.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.