Damwain: Tri yn yr ysbyty

Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ar lôn ddwyreiniol yr A4603 am 8:10am ddydd Mercher.

Bu'n rhaid torri un person yn rhydd o'i gerbyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol