'Mantais' tocyn wythnos i'r Brifwyl ym Mro Morgannwg

Maes Eisteddfod Wrecsam Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dywed yr Eisteddfod y bydd oedolyn yn gallu arbed £46

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion a manteision prynu tocyn wythnos i'r Brifwyl.

Dim ond 200 niwrnod sydd i fynd tan y bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ym Mro Morgannwg.

Eleni mae'r Maes ar hen faes awyr Llandŵ.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, eu bod fel pob gŵyl a digwyddiad mawr arall, yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth ymwelwyr.

"Rydan ni'n awyddus i'w gwneud yn haws i'n cynulleidfa selog ein cefnogi drwy greu cynigion arbennig i'w hannog i dreulio mwy o amser ar Faes yr Eisteddfod.

"Dyw tocyn wythnos yr Eisteddfod ddim yn rhywbeth newydd, ond ar ôl siarad gyda nifer fawr o Eisteddfodwyr y llynedd ac ers hynny, roedd yn amlwg nad oedd pawb yn ymwybodol o'r arbedion gwirioneddol mae'r tocyn yn ei gynnig i'r rheini sydd am dreulio nifer o ddyddiau yn crwydro'r Maes.

'Arbediad go iawn'

"Ymhen 200 o ddyddiau rydym yn mawr obeithio y bydd pobl yn tyrru i Landŵ o bob cwr o Gymru i fwynhau'r Eisteddfod.

"Bydd cannoedd o weithgareddau o bob math yn aros amdanyn nhw ar y Maes, ac rydym eisiau sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn treulio cymaint o ddyddiau ag y gallan nhw ar y Maes, yn mwynhau'r gorau sydd gan Gymru i'w chynnig."

I unrhyw un sy'n ymweld â'r Eisteddfod am yr wythnos mae'r tocyn wythnos yn "cynnig arbediad go iawn".

Mae oedolyn yn arbed 34% ar bris tocynnau unigol ar gyfer yr wythnos gyfan - arbediad o £46.

"Dim ond un o'r cynigion sydd ar gael yw'r tocyn wythnos, a byddwn yn cyhoeddi manylion cynnig arbennig arall ddechrau Chwefror, pan fyddwn yn dathlu mai chwe mis yn unig fydd i fynd cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg," ychwanegodd Mr Roberts.

"Gobeithio y bydd pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn dod atom i'r Fro."

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg rhwng Awst 4 a 11 2012.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.