Marwolaeth 'ddim yn amheus'

Mae'r heddlu wedi datgan nad oedd marwolaeth person gafodd ei ganfod ym maes parcio yn Sir Benfro yn un amheus.

Cafwyd hyd i'r corff ym maes parcio Freshwater West yn Sir Benfro tua 6.30am ddydd Mercher.

Cafodd y ffordd i mewn ac allan o'r pentre' ei chau er mwyn hwyluso ymchwiliad yr heddlu.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn aros am ganlyniadau cofnodion deintyddol i adnabod y corff.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 yn lleol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.