Dyn ar goll: Apêl am wybodaeth

Mae'r heddlu'n poeni am ddyn o'r Rhondda nad oes neb wedi ei weld ers prynhawn Mercher.

Dyw Myrddin Pendragon o Wattstown ddim wedi ei weld ers 4pm ddydd Mercher.

Mae'n 46 oed, yn denau, yn 5'9" o daldra a chanddo ben moel a barf du.

Roedd yn gwisgo siaced, het, trowsus ac esgidiau tywyll.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn poeni am ei fod yn dioddef o gyflwr meddygol ac heb feddyginiaeth.

Mae gan Mr Pendragon gysylltiadau â phobl ym Mhont-y-clun a Chaerdydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu De Cymru ym Mhontypridd ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.