Ymosodiad honedig mewn arholiad ym Mhrifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwraig sy'n astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi ei harestio ar ôl digwyddiad yn ystod arholiad.
Cafodd dyn 67 oed anafiadau i'w ddwylo yn ystod y digwyddiad.
Y gred yw bod y drosedd honedig wedi digwydd yn neuadd chwaraeon ar gampws y brifysgol brynhawn dydd Mawrth.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod menyw wedi ei harestio a'i rhyddhau ar fechnïaeth.
Y gred yw bod y dyn gafodd ei anafu yn aelod o staff y brifysgol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Mae menyw 24 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o ymosod wedi digwyddiad yn neuadd chwaraeon Prifysgol Abertawe tua 3pm ddydd Mawrth.
"Dioddefodd dyn 67 oed anafiadau i'w ddwylo yn ystod y digwyddiad.
"Mae'r fenyw wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'n hymchwiliad barhau."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "Mae'r digwyddiad honedig yn cael ei ymchwilio gan yr heddlu felly ni fyddai'n addas i'r brifysgol gynnig unrhyw sylwadau."