Heddlu'n cael 36 awr ychwanegol

Mae'r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dyn 22 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn gael ei daro gan gar ym Mae Caerdydd.

Bu farw Kyle Griffith, 25 oed o ardal y Bae, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei daro gan gar Fiat Cinquecento glas yn Stryd James tua 3am ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y car wedi stopio cyn y gwrthdrawiad er bod yr heddlu wedi gofyn i'r gyrrwr.

Yn wreiddiol, cafodd y dyn o Bentwyn, Caerdydd, ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus a bod yn anghymwys i yrru oherwydd dylanwad diod neu gyffuriau.

Yn ddiweddarach fe gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.