Heddlu: Canfod corff mewn maes parcio

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gorff gael ei ganfod ym maes parcio Freshwater West yn Sir Benfro.

Cafwyd hyd i'r corff tua 6.30am ddydd Mercher.

Mae'r ffordd i mewn ac allan o Freshwater West wedi ei chau i hwyluso ymchwiliad yr heddlu.

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.