Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth mewn tafarn

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 32 oed mewn tafarn yn Rhondda Cynon Taf.

Dywed swyddogion fod y dyn wedi marw mewn tafarn Wetherspoons yn Aberdâr nos Lun.

Mae'r heddlu yn apelio ar i unrhyw un a oedd yn y dafarn rhwng 5:30pm a 7:30pm nos Lun i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y farwolaeth sydyn gysylltu â swyddogion ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.