Darganfod corff dyn mewn chwarel ger Y Trallwng

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i gorff gael ei ddarganfod mewn chwarel yn y canolbarth fore Sul.

Dyw enw'r dyn 57 oed ddim wedi cael ei gyhoeddi eto ond mae'n debyg ei fod yn byw yn ardal Croesoswallt.

"Does dim byd ar hyn o bryd i awgrymu bod 'na amgylchiadau amheus," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Greg Williams.

"Cafodd y corff ei ddarganfod yn Llanymynech fore Sul ond dydyn ni ddim yn gwybod yn union pryd y bu farw ac rydym yn parhau i ymchwilio i symudiadau'r dyn dros y penwythnos. Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

"Os oedd unrhyw un yn cerdded yn yr ardal ddydd Sadwrn neu a allai fod wedi gweld rhywbeth fyddai'n ein helpu gyda'n hymchwiliadau, dylai gysylltu â Swyddfa Heddlu'r Trallwng ar 101."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.