Lloches i'r Iddewon yn ne Cymru

Dogfen teithio Ellen Davis Image copyright Other
Image caption Cafodd llun Ellen Davis ei ddewis gan gwpl o Abertawe allan o gatalog o blant Iddewig

Mae arddangosfa sy'n olrhain hanes yr Iddewon oedd wedi ffoi rhag y Natsïaid i dde Cymru wedi agor yn Abertawe.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe rhwng Ionawr 10 a Chwefror 5, cyfnod sy'n cynnwys Diwrnod Coffa'r Holocost ar Ionawr 27.

Bydd rhan o'r arddangosfa yn canolbwyntio ar hanes Kindertransport- yr ymgyrch gan Brydeinwyr i achub cymaint o blant Iddewig o'r Almaen, Awstria a Tsiecoslofacia â phosib.

Yn eu plith roedd Ellen Davis, sy'n byw yng Ngŵyr erbyn hyn, a ddaeth i Gymru ar ôl i gwpl hŷn o Abertawe ddewis ei llun allan o gatalog plant a luniwyd gan gymdeithas Iddewig yn yr Almaen.

Yn 10 mlwydd oed, roedd ei thad eisoes mewn gwersyll Natsïaidd, ei mam yn ddigartref a hi a'i brodyr a chwiorydd ieuengach mewn cartref plant.

'Cau pen y mwdwl'

Ellen oedd yr unig un i gael ei dewis. Cafodd gweddill ei theulu eu cludo i Latfia a'u saethu'n farw mewn coedwig ger Rīga.

"Ges i'r cyfle i fynd i seremoni coffa yno yn 2000, pan oeddwn i'n 73 oed," meddai Ellen. "Er mai Rhagfyr oedd hi, a finnau ag arthritis, mi wnes i grwydro o domen i domen i ddweud gweddi Hebraeg, gan fy mod yn ymwybodol bod fy nheulu wedi eu claddu yn un ohonynt.

"Cefais gyfle i gau pen y mwdwl i raddau ar ôl 70 mlynedd."

Mae Ellen yn cydnabod nad oedd hi a'i mam fabwysiedig yn cyd-fynd drwy'r amser, yn enwedig ar ôl iddi newid ei henw o Kerry i Ellen a thorri ei phlethau hir.

Image copyright Other
Image caption Cafodd gweddill teulu Ellen eu saeth mewn coedwig yn Latfia

Dioddef

"Roeddwn yn edrych yn y drych a ddim yn gwybod pwy oedd yr Ellen 'ma," meddai. "Fel yr hynaf, roeddwn wedi bod yn fam i'r plant eraill ac yna roeddwn mewn gwlad estron heb air o Saesneg. Mae'n anodd dweud fy mod i'n falch i mi gael fy achub ar ôl gorfod gadael fy nheulu.

"Ond mae'n rhaid bod fy rhieni wedi dioddef mwy na fi. Allwch chi ddychmygu sut brofiad oedd o, eich bod yn caru'ch plant cymaint, bod yn well gennych eu hildio er mwyn eu diogelwch? Wrth feddwl am hynny, mae 'nghalon i'n gwaedu dros fy rhieni."

Ar ôl byw yng Nghymru am dros 70 mlynedd, mae Ellen yn cyfri ei hun fel Cymraes erbyn hyn.

Ond wrth iddi gynnal sgyrsiau mewn ysgolion a chymdeithasau dros y blynyddoedd, mae hi'n benderfynol na fydd pobl yn anghofio stori'r Iddewon a'r Holocost ac yn falch iawn o'r arddangosfa yma.

Mae yna hefyd hanesion meddygon Iddewig a ddaeth i Brydain ac ailhyfforddi er mwyn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu reolwyr ffatrïoedd a gafodd deitheb a chreu swyddi mewn ardaloedd fel Trefforest, lle'r oedd diweithdra ar eu uchaf yn y 1930au.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.