Caerdydd allan o Gwpan FA wrth i Abertawe gamu ymlaen

Barnsley 2-4 Abertawe

Brighton 1-1Wrecsam

West Brom 4-2 Caerdydd

Canlyniadau cymysg i dimau Cymru yn Nhrydedd Rownd Cwpan FA Lloegr wrth i Abertawe sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd.

Er bod y goliau wedi llifo i'r rhwyd yn yr holl gemau colli wnaeth Caerdydd yn erbyn West Brom.

Mae Wrecsam wedi sicrhau ailchwarae ar y Cae Ras ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Brighton o'r Bencampwriaeth.

Abertawe

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Danny Graham ddwy o goliau Abertawe yn eu buddugoliaeth yn erbyn Barnsley

Roedd dwy gôl i Danny Graham yn yr ail hanner yn gymorth i Abertawe gael buddugoliaeth a hawlio eu lle yn y bedwaredd rownd.

Daeth y ddwy gôl arall gan Angel Rangel a Nathan Dyer.

O fewn hanner awr roedd yr ymwelwyr ar ei hôl hi wrth i Ricardo Vaz Te rwydo i Barnsley.

Ond cafodd Angel Rangel ei gôl gyntaf i Abertawe funud yn ddiweddarach.

Roedd hi'n gyfartal ar yr hanner cyn i bedair gôl gael eu sgorio yn yr ail hanner.

O fewn eiliadau i ddechrau'r ail hanner fe wnaeth Danny Graham ganfod cefn y rhwyd o bellter.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl Nathan Dyer ar ôl 54 munud cyn i Vaz Te sgorio ei ail wedi 65 munud.

Bu'n rhaid aros tan yr 89fed munud i Abertawe a Graham selio'r fuddugoliaeth o chwe llath.

Roedd rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi gwrthod y demtasiwn o wneud nifer o newidiadau ond cafodd Yr Almaenwr Gerhard Tremmel ei gyfle cynta' dros Yr Elyrch yn y gôl wrth i Michel Vorm gael seibiant.

Wrecsam

Image copyright Getty Images
Image caption Adrian Cieslewicz yn dathlu gôl Wrecsam

Daeth gôl yn yr ail hanner i Wrecsam i sicrhau bod eu henw yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd.

Roedd y Dreigiau wedi teithio i Brighton ar gyfer y gêm 20 mlynedd ers iddyn nhw guro Arsenal ar y Cae Ras.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr hanner cyn i Jake Forster-Caskey sgorio i'r tîm cartref dri munud wedi dechrau'r ail hanner.

Ond daeth gôl gan Adrian Cieslewicz wedi 62 munud i ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal.

Ymateb rheolwr y tîm cartref, Gus Poyet, oedd eilyddio gan gynnwys Anton Rogers, mab rheolwr Abertawe, Brendon Rogers.

Fe gafodd yr eilyddion gyfle i adfer mantais Brighton ond fe fyddai hynny wedi bod yn ergyd i Wrecsam a oedd wedi dangos digon o ymdrech a dygnwch.

Fe allai'r ymwelwyr fod wedi dwyn buddugoliaeth ddramatig yn yr amser gafodd ei ganiatáu am anafiadau pan gafodd ergyd Jamie Tolley ei arbed gan y gôl-geidwad Peter Brezovan.

Wedi perfformiad cryf gan yr ymwelwyr maen nhw'n haeddu ailchwarae.

Fe fyddan nhw'n ailchwarae ar Y Cae Ras ar Ionawr 17 .

Petai Wrecsam yn ennill dyma fyddai'r tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y bedwaredd rownd ers 2000.

Ar ddiwedd y gêm fe wnaeth chwaraewyr Wrecsam gymeradwyo'r 2,000 o gefnogwyr oedd wedi teithio.

Caerdydd

Image copyright Getty Images
Image caption Simon Cox gafodd hatric i West Brom wrth iddyn nhw guro Caerdydd

Roedd 'na newidiadau yn nhîm Caerdydd ond ofer oedd goliau Robert Earnshaw a Joe Mason wrth iddyn nhw golli o 4-2 yn erbyn West Brom.

Cafodd Simon Cox hatric i'r tîm cartref i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Ond roedd Caerdydd wedi brwydro a dod yn ôl ar ôl bod ar ei hôl i o 2-0 ar yr Hawthorns.

Peter Odemwingie gafodd gôl gyntaf y tîm cartref ond mae 'na amheuaeth a oedd yna gamsefyll.

Daeth gôl gyntaf Cox o gic rydd cyn i Gaerdydd rwydo.

Ond daeth dwy arall i Cox.

Er eu bod wedi colli sawl cyfle doedd 'na ddim gwarth ym mherfformiad Caerdydd ac fe ddylen nhw fod yn falch o'r perfformiad.

Fe fydd Caerdydd rŵan yn troi eu golygon at gymal cynta' rownd gynderfynol Cwpan Carling nos Fawrth wrth deithio i wynebu Crystal Palace.

Canlyniadau eraill:

Dydd Sadwrn:

Birmingham 0-0 Wolverhampton

Dag & Red 0-0 Millwall

Coventry 1-2 Southampton

Crawley 1-0 Bristol City

Derby 1-0 Crystal Palace

Doncaster 0-2 Notts County

Everton 2-0 Tamworth

Fleetwood 1-5 Blackpool

Fulham 4-0 Charlton

Gillingham 1-3 Stoke

Hull 3-1 Ipswich

MK Dons 1-1 QPR

Macclesfield 2-2 Bolton

Middlesbrough 1-0 Yr Amwythig

Newcastle 2-1 Blackburn

Norwich 4-1 Burnley

Nottingham Forest 0-0 Caerlŷr

Reading 0-1 Stevenage

Sheffield Utd 3-1 Salisbury

Swindon 2-1 Wigan

Tottenham 3-0 Cheltenham

Watford 4-2 Bradford

Bristol Rovers 1-3 Aston Villa

Nos Wener:

Lerpwl 5-1 Oldham

Dydd Sul:

Man City 2-3 Man Utd

Chelsea 4-0 Portsmouth

Sheffield Wed 1-0 West Ham

Peterborough 0-2 Sunderland

Nos Lun:

Arsenal v Leeds

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.