Cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod yn farw ar dir ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae enw dyn, a gafwyd hyd iddo'n farw ar dir ysgol yn Sir Fôn ddydd Sadwrn, wedi cael ei gyhoeddi.
Roedd Dafydd Richard Williams yn 23 oed ac yn dod o Gaergeiliog.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i Ysgol Caergeiliog tua 8:30am ddydd Sadwrn, ble y daethon nhw o hyd i gorff Mr Williams.
Ar y pryd, dywedodd yr heddlu nad oedd 'na amgylchiadau amheus i'r farwolaeth.
Cafodd cwest ei agor a'i ohirio, ond does dim dyddiad wedi'i bennu eto.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol