RaboDirect Pro12: Dreigiau 21-20 Gweilch

Gavin Henson yn methu â chymryd y bêl uchel y tro hwn Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gavin Henson yn methu â chymryd y bêl uchel y tro hwn

Mae'r Dreigiau yn dathlu eu buddugoliaeth cynta ers mis Medi yng nghystadleuaeth y Pro12 ar ôl curo'r Gweilch ar Rodney Parade.

Croesodd Martyn Thomas a Lewis Robling i'r tîm cartrefl gyda Tommy Bowe yn sgorio unig gais yr ymwelwyr.

Llwyddodd maswr y Gweilch Matthew Morgan gyda phedwar cic gosb, gyda Dan Biggar hefyd yn llwyddo gydag un cic gosb ar ôl dod ymlaen fel eilydd.

Ond roedd Biggar yn anlwcus gyda'i gic adlam yn eiliad ola'r gem, fe darodd y bel yn erbyn y postyn.

Buddugoliaeth i'r Dreigiau a phwynt bonws wrth golli i'r Gweilch.

Roedd yr wythwr Toby Faletau yn serennu i'r tîm cartref, ac yn llwyddo i ddadlwytho yn rhyfeddol.

Ond yn aml roedd diffyg cefnogaeth iddo ar ôl iddo lwyddo i fylchu'r amddiffyn.

Roedd Faletau yn rhan o'r symudiad ddaeth a'r cais cyntaf i Martyn Thomas.

Aeth y bêl drwy ddwylo Chavhanga a Will Harries cyn rhyddhau Thomas yn y gornel.

Daeth ail gais y Dreigiau ar ôl i Robling rhyng-gipio a rhedeg 40 metr i'r llinell gais.

Croesodd Bowe ar gyfer cais gwych i'r Gweilch ond roedd yna awgrym fod y bas ymlaen gan Biggar. Methodd ei ymdrech gyda'r trosgais.

Roedd hynny'n gostus gan i'w gol adlam daro'r postyn yn eiliadau ola'r gêm.

Dreigiau: Martyn Thomas; Will Harries; Aled Brew, Ashley Smith; Tonderai Chavhanga; Jason Tovey, Wayne Evans; Nathan Williams, Steve Jones, Nathan Buck, Adam Jones, Rob Sidoli, Danny Lydiate (c), Lewis Evans, Toby Faletau. Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Dan Way, Jevon Groves, Darren Waters, Joe Bedford, Lewis Robling, Matthew Jones

Gweilch : Barry Davies; Eli Walker; Tom Isaacs, Ashley Beck; Hanno Dirksen; Matthew Morgan, Rhys Webb; Duncan Jones, Huw Bennett, Aaron Jarvis, Ryan Jones, Ian Evans, Tom Smith, Justin Tipuric (c), Joe Bearman Eilyddion: Richard Hibbard, Paul James, Adam Jones, Jonathan Thomas, George Stowers, Kahn Fotuali'i, Dan Biggar, Tommy Bowe

Safle Gemau Enillwyd Cyfartal Pwyntiau Bonws Cyfanswm
1. Leinster 12 10 0 4 44
2. GWEILCH 13 9 1 1 39
3. Glasgow 12 7 2 5 34
4. Munster 12 7 0 2 33
5. Ulster 12 7 0 3 31
6. GLEISION 11 6 0 9 30
7. SCARLETS 12 6 1 4 30
8. Treviso 12 6 0 3 28
9. Caeredin 13 4 1 4 22
10. Connacht 12 3 0 4 17
11. DREIGIAU 12 3 1 3 17
12. Aironi 12 2 0 2 10