Cefnogaeth i ganolfan bêl-droed
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Cyngor Casnewydd wedi argymell y dylai cynghorwyr gymeradwyo cynllun i godi canolfan hyfforddi pêl-droed cenedlaethol sy'n werth miliynau o bunnau.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru am godi pencadlys newydd yno gydag adnoddau addysgol a gwyddoniaeth chwaraeon hefyd ar y safle.
Byddai'r ganolfan hefyd yn cael ei defnyddio i ddatblygu chwaraewyr o'r timau dan-14 i dan-21, ac yn ganolfan ymarfer i'r tîm cenedlaethol.
Y safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad yw Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd yn Spytty.
Mae'r safle eisoes yn gartref i felodrom, canolfan criced a thenis dan do ac yn gartref i dîm pêl-droed Casnewydd, sy'n chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm athletau.
Byddai'r cynllun yn gweld y tîm cenedlaethol yn symud o'u cartref presennol ym Mro Morgannwg i'r safle gyda chaeau gwair ac artiffisial.
Fe fyddai'r caeau artiffisial ar gael at ddefnydd clybiau lleol a chyhoeddus, gyda'r cae gwair ar ddefnydd y garfan ryngwladol yn unig.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys eisteddle 100 sedd, maes parcio gyda lle i 44 o geir, ac fe allai cyrtiau sboncen ac ystafelloedd newid presennol gael eu troi'n olchdy.
Bydd pencadlys newydd y Gymdeithas Bêl-droed yn adeilad dau lawr.
Pan gafodd y cynllun ei ddatgelu ym mis Ebrill y llynedd, dywedodd cyn reolwr Cymru, y diweddar Gary Speed, ei fod yn "hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant i'r dyfodol".
Eisoes mae'r cynllun wedi cael cefnogaeth gan gyrff rheoli pêl-droed Ewrop a'r byd - UEFA a FIFA - gydag addewid gan y cyrff o hyd at 3 miliwn Ewro tuag at y gost o godi'r ganolfan.
Bydd y cynghorwyr ar bwyllgor cynllunio Cyngor Casnewydd yn pleidleisio ar y cais cynllunio ddydd Mercher nesaf.