Cymru'n cwestiynu hawl Steve Shingler i chwarae i'r Alban

Steve Shingler Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Steve Shingler ei enwi yng ngharfan Yr Alban ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012

Mae ffrae wedi codi ar ôl i'r olwr amryddawn Steve Shingler gael ei gynnwys yng ngharfan Yr Alban ar gyfer Pencampwriaeth Y Chwe Gwlad.

Chwaraeodd Shingler dros dîm Cymru dan 20 oed y tymor diwetha'.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi codi'r cwestiwn a oes ganddo'r hawl i chwarae dros Yr Albanwyr.

Mae'r undeb wedi cysylltu gyda'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.

Cafodd Shingler, sy'n chware i dîm Gwyddelod Llundain, ei eni yn Abertawe.

Fe wnaeth Shingler chwarae fel olwr dros Gymru yn erbyn Ffrainc y llynedd.

Amodau arbennig

Roedd Cymru a Ffrainc wedi cyhoeddi y byddai gemau dan 20 oed ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwald yn 2011 yn cyfateb i'r ail dîm gan nad oes ganddyn nhw dîm A.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru dim ond dros Gymru y mae Shingler yn gymwys felly.

Mae'r undeb hefyd yn dweud bod hyn wedi ei egluro i'r chwaraewyr cyn y gêm a bod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn derbyn bod y tîm dan 20 oed yn gydradd â thîm A yn ôl amodau arbennig rheoleiddiad 8 y bwrdd.

Ond mae'r chwaraewr yn mynnu ei fod "wedi gwrthod arwyddo datganiad" a fyddai yn ei rwymo i chwarae dros Gymru yn y dyfodol ar y lefel ucha'.

Ychwanegodd Undeb Rygbi'r Alban fod y chwaraewr wedi gwrthod y datganiad er mwyn bod ar gael i chware dros Yr Alban, Lloegr neu Gymru ar y lefel ucha'.

Dim ond petai Undeb Rygbi Cymru yn gwneud cwyn swyddogol y bydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwaldol yn gwneud ymchwiliad pellach.

Yn ôl Andy Robinson, hyfforddwr Yr Alban, mae Shingler yn gymwys i gynrychioli'r Alban o ganlyniad i'r ffaith bod ei fam wedi ei geni yn Dumfries.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.