Gareth Thomas yn rhan o celebrity Big Brother

Gareth Thomas Image copyright PA
Image caption Fe aeth Gareth Thomas i mewn i dŷ Big Brother nos Iau

Mae Gareth Thomas, cyn-gapten rygbi Cymru a'r Llewod, wedi mynd i mewn i dŷ Big Brother ar gyfer fersiwn enwogion o'r gyfres.

Fe wnaeth y chwaraewr rygbi'r undeb a chynghrair ymddeol o'r gamp ym mis Hydref.

Yn 2009 cyhoeddodd ei fod yn hoyw.

Mae ei fywyd wedi ennyn sylw'r actor o Hollywood, Mickey Rouke, sy'n awyddus i chwarae Thomas mewn ffilm am ei fywyd.

Dywedodd rheolwr Thomas ei fod yn nerfus cyn mynd mewn i'r tŷ.

Mae cyfres Celebrity Big Brother wedi cychwyn nos Iau ar Channel 5.

Ymhlith y rhai fydd yn rhannu'r tŷ gyda Thomas y mae'r actor o Hollywood Michael Madsen, Frankie Cocozza o'r X-Factor, yr actores Natalie Cassidy, y canwr Andrew Stone a modelau Playboy yr efeilliaid Kristina a Karissa Shannon.

Gwneud ffrindiau

Yno hefyd y mae chwaer-yng-nghyfraith y pêl-droediwr Ryan Giggs, Natasha Giggs.

Cyn mynd i'r tŷ dywedodd Thomas ei fod yn gystadleuol iawn ac y byddai'n "gwnued popeth er mwyn ennill".

Cyfaddefodd fod ganddo dymer ymfflamychol ond ei fod yn gobeithio gwneud ffrindiau yno mewn awyrgylch da.

"Dwi'n edrych ymlaen at ei wylio ar y teledu fel dwi'n credu y bydd y mwyafrif o Gymry hefyd," meddai rheolwr Thomas, Emanuele Palladino.

"Roedd yn betrusgar ar y dechrau ond fe wnaeth o sylweddoli y byddai'n hwyl.

"Mae'r amseru yn wych, yn syth ar ôl ymddeol ac mae yn mynd i roi llwyfan i bobl ddod i wybod amdano a'i glywed a'i weld y tu allan i fyd rygbi."

Enillodd Thomas, 37 oed, 100 o gapiau dros Gymru.

Gadawodd 'Alfie' fel y mae'n cael ei adnabod rygbi'r undeb am rygbi'r gynghrair dair blynedd yn ôl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.