Aston Villa 0-2 Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Asgellwr yr Elyrch, Nathan Dyer, yn dathlu ei gôl yn erbyn Aston Villa

Mae Abertawe wedi ennill eu gêm gyntaf oddi cartref yn yr Uwchgynghrair, a hynny yn erbyn Aston Villa.

Fe wnaeth Nathan Dyer fanteisio ar bas wan gan Stephen Warnock i roi'r Elyrch ar y blaen o fewn pedair munud, a pharhaodd i fod yn ddraenen yn ystlys amddiffynwyr y tîm cartref.

Dyblodd Wayne Routledge y fantais yn fuan wedi'r egwyl, wrth rwydo ar ôl i ergyd Danny Graham daro'r postyn.

Bu bron i Charles N'Zogbia gael gôl gysur yn y funud olaf ond fe darodd y postyn, gyda'r bêl wedyn yn pasio ar hyd wyneb y gôl.

Mae'r Elyrch nawr yn codi pedwar safle yn y tabl i'r unfed safle ar ddeg.

"Ro'dd hi'n ffordd arbennig o ddechrau'r flwyddyn", meddai rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers.

O amgylch y meysydd eraill roedd buddugoliaethau i Stoke, Norwich a Chelsea.