Tân: Dyn wedi marw

Mae dyn yn ei chwedegau wedi marw mewn tân mewn fflat yn Llandudno yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Mi gafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw i Stryd Mostyn yn y dref am 7am ddydd Sul.

Llwyddodd hyd at 10 o bobl eraill oedd yn byw yn yr adeilad i ddianc yn ddi-anaf.

Mae yna ymchwiliad ar y gweill i achos y tân ond dywed yr heddlu nad oedd y tân yn amheus.