Damwain: Dwy fenyw wedi marw

Vauxhall Corsa yn cael ei gludo o leoliad y ddamwain Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Y Vauxhall Corsa yn cael ei gludo o leoliad y ddamwain yn Llanrug

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion wedi i ddwy fenyw o Wynedd farw yn dilyn damwain ffordd yn Llanrug ddydd Sul.

Digwyddodd y ddamwain ym mhentref Llanrug tua 6am ddydd Sul Ionawr 1 pan fu Vauxhall Corsa oedd yn teithio ar y ffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon mewn gwrthdrawiad â wal ger tafarn Glyn Twrog yn y pentref.

Bu farw'r gyrrwr a'r teithiwr yn y fan a'r lle.

Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru wedi ei hysbysu am y marwolaethau.

Dylai unrhywun un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 0300 3300101

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.