Dyn ar goll: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn pryderu am ddiogelwch Mr Robinson
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio i ddyn sydd wedi bod ar goll ers pum niwrnod i gysylltu â nhw.
Mae James Johan Robinson, 31 oed, o Ddinbych, sydd hefyd wedi byw yn Wrecsam, wedi bod mewn cysylltiad â ffrindiau ers iddo fynd ar goll ac mae ei deulu am iddo gysylltu â nhw neu'r heddlu.
Dywed yr heddlu eu bod yn pryderu am ddiogelwch Mr Robinson.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 0300 3300 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol