Anrhydeddu Graham Henry

Graham Henry Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Henry yn hyfforddwr ar Gymru rhwng 1998 a 2002

Mae un o gyn hyfforddwyr Cymru wedi ei urddo'n farch ar ochr arall y byd.

Cafodd Graham Henry, neu Syr Graham ei anrhydeddu wrth i Seland Newydd gyhoeddi eu rhestr anrhydeddau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Mae'n derbyn yr anrhydedd oherwydd ei wasanaeth i chwaraeon.

Daw'r wobr yn sgil buddugoliaeth y Crysau Duon wrth ennill Cwpan y Byd ym mis Hydref.

Fe gurodd y Crysau Duon Ffrainc o drwch blewyn, 8-7, yn y gêm derfynol.

Roedd Henry yn hyfforddwr ar dîm rygbi Cymru rhwng 1998 a 2002.