Ymosodiad: Yr heddlu yn ymchwillio

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi ymosodiad rhywiol yn ardal Pontardawe.

Digwyddodd yr ymosodiad tua 10.15pm nos Iau Rhagfyr 29.

Ymosodwyd ar ddynes 17 oed wrth iddi gerdded lawr lôn rhwng Alltycham Drive a Ffordd Brynheluolg, ger yr orsaf dân.

Ceisiodd y dyn siarad â'r fenyw cyn ymosod yn rhywiol arni.

Dywed yr heddlu fod y dyn yn ei 40au, yn gwisgo trowys lliw caci a thop du gyda hwd.

Mae'r dyn rhwng chwe throedfedd a chwe throedfedd dwy fodfedd o daldra ac yn siarad gydag acen leol.

Apêl

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Hough fod 'na ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

"Byddwn yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal hon rhwng 10pm a 10.30pm nos Iau, neu sy'n adnabod y dyn o'r disgrifiad i gysylltu â ni."

Roedd y fenyw wedi mynd parti yng Nghlwb Pêl-droed Pontardawe.

Os oes gan unrhyw un wybdoaeth fe ddylid cysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.