Apêl am dystion wedi i yrrwr car farw

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion ar ôl damwain yn ardal Sandfields o Bort Talbot ddydd Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 10.15am ar y gyffordd rhwng Golden Avenue a Chrome Avenue.

Roedd 'na ddau gerbyd yn y ddamwain, Kia Picanto du a Renault Megane du.

O ganlyniad i'r gwrthdrawiad bu farw gyrrwr y Kia Picanto, dyn 85 oed a oedd yn byw yn lleol.

Bu farw yn y fan a'r lle.

Roedd y Renault Megane wedi ei barcio ar ochr y ffordd a doedd 'na neb ynddo ar y pryd.

Roedd y Kia Picanto yn teithio i gyfeiriad y gogledd ar hyd Golden Avenue.

Doedd 'na ddim un person arall yn rhan o'r ddamwain.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i'r hyn ddigwyddodd.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan unrhyw un welodd y Kia cyn y ddamwain.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.