Tân: Corff mewn ystafell wely

Injan dân Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd diffoddwyr eu hanfon am 12.03

Mae'r heddlu wedi dweud bod dyn wedi marw ddydd Mercher oherwydd tân mewn tŷ.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ tri llawr yng Nghasnewydd am 11.40am cyn i ddau griw o ddiffoddwyr gael eu hanfon am 12.03. Roedd corff y dyn mewn ystafell wely.

Dywedodd yr heddlu nad oedd y farwolaeth yn amheus.

Mae'r gwasanaeth tân yn dal i ymchwilio i achos y tân ac mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Iau.