Diwedd ar y tagfeydd ger parc manwerthu?
- Cyhoeddwyd

Yn y Flwyddyn Newydd fe fydd ffordd yn cael ei lledu oherwydd tagfeydd yn Wrecsam.
Y bwriad yw creu lôn ychwanegol ar Ffordd Plas Coch fel y bydd llai o dagfeydd rhwng y parc manwerthu cyfagos a Ffordd Yr Wyddgrug.
Cwmni Sainsbury's sy'n talu am y gwaith a fydd yn dechrau ym mis Ionawr ac yn dod i ben ym mis Mai.
Dywedodd y cwmni y byddai llai o broblemau wedi i nifer o siopwyr Nadolig yn 2010 gwyno eu bod yn wynebu oriau o oedi.
"Fydd y gwaith ddim yn dechrau tan fis Ionawr rhag ofn y bydd cwsmeriaid yn cael problemau ychwanegol yn ystod cyfnod y Nadolig," meddai llefarydd.
'Cyfle'
"Yn sicr, mi fydd lledu Ffordd Plas Coch a gwaith y cyngor ar gylchfan Ffordd Yr Wyddgrug yn lleddfu problemau."
Mae tagfeydd wedi bod yn yr ardal ers blynyddoedd ac ym mis Mehefin 2010 y cymeradwyodd y cyngor gynlluniau gwella.
Ar y pryd dywedodd adroddiad: "Mae hwn yn gyfle i leddfu tagfeydd ac ni fydd effaith fawr ar olwg yr ardal nac ar ddiogelwch cerddwyr na gyrwyr."
Serch hynny, dywedodd rhai pobl leol eu bod yn poeni y byddai'r drefn newydd yn ei gwneud hi'n anodd i yrwyr gyrraedd cylchfannau.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2011
- 30 Tachwedd 2011