Hyfforddwr Gweilch yn gadael

Scott Johnson Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Scott Johnson: 'Amser symud ymlaen'

Mae Cyfarwyddwr Hyfforddi'r Gweilch, Scott Johnson, wedi dweud y bydd yn gadael ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd Undeb Rygbi'r Alban y byddai'n uwchhyfforddwr cynorthwyol, yn aelod allweddol o dîm cefnogi Andy Robinson.

"Yn wreiddiol, fe ddywedais i y bydden i'n hyfforddi'r Gweilch am dair blynedd," meddai Scott.

"Dwi wedi cael amser i ystyried y dyfodol ac wedi rhoi gwybod i gyfarwyddwyr y clwb."

Dywedodd ei fod wrth ei fodd ers tair blynedd yn creu trefn fyddai'n hybu chwaraewyr a hyfforddwyr newydd.

"Yn sicr, hwn yw'r amser i symud ymlaen ond fe fydda i'n helpu'r Gweilch gant y cant cyn diwedd y tymor."

Dywedodd Andrew Hore, yr uwchswyddog gweithgareddau: "Mae hon yn siomedigaeth enfawr ond rydyn ni'n deall ei safbwynt, taw hon yw'r adeg iddo fe wynebau heriau newydd.

'Allweddol'

"Mae'r rhanbarth wedi llwyddo tra bod Scott yn ein hyfforddi ni ... ond mae ei ddylanwad mwya oddi ar y cae, ei gyfraniad allweddol wrth ddatblygu chwaraewyr a hyfforddwyr.

"Fe fydd hyn yn hwb i gynaliadwyedd y clwb yn y pen draw."

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Roger Blyth: "Mae Scott yn arloeswr ac wedi gweithio'n ddiflino.

"Oherwydd ei gyfraniad mae cwpanau wedi dod i Stadiwm y Liberty ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn digwydd eto'r tymor hwn.

"Oherwydd ei gydweithio ag Andrew Hore gall chwaraewyr a hyfforddwyr ifanc gyrraedd eu potensial.

"Mae ei waith yn golygu y gallwn ni gystadlu ar y lefel ucha er gwaetha'r pwysau ariannol cynyddol.

"Rydyn ni'n dymuno pob lwc iddo fe."