Seintiau ar y brig
- Cyhoeddwyd

Roedd cyfle, am 24 awr o leiaf i'r Seintiau Newydd godi i frig yr Uwchgynghrair gyda buddugoliaeth yn y Drenewydd - y tîm waelod ond un.
Daeth y goliau yn yr ail hanner. Roedd argoel o ganlyniad annisgwyl wrth i Boundford roi'r tîm cartref ar y blaen. Ond tarodd y Seintiau yn ôl gyda goliau gan Spender, Roberts a Jones - buddugoliaeth o 3-1.
Bydd cyfle Llanelli a Bangor i ddisodli'r Seintiau yn dod fory. Llanelli gartref yn erbyn Castell-nedd a Bangor yn croesawu Prestatyn.
Brwydr ar waelod y tabl oedd hi ar faes Park Avenue gydag Aberystwyth yn chwarae Caerfyrddin.
Caerfyrddin sy'n parhau ar waelod yr adran ar ôl colli 4-1.
Goliau gan Thomas (4), James (16) Parkinson (75) a Nalborski (83) wnaeth sicrhau'r pwyntiau i'r tîm cartref.
Bu'n rhaid i'r Bala aros deng munud o ddiwedd y gêm er mwyn sicrhau'r tri phwynt yn erbyn Airbus. Allen o Airbus yn rhoi'r bel yn rhwyd ei hun.
Yn gêm arall y diwrnod roedd hi'n gyfartal 2-2, rhwng Port Talbot a Lido Afan.
Dydd Mawrth
Llanelli v.Castell-nedd
Bangor v Prestatyn
Rhagfyr 26, 5 pm